P-05-1141 Dylid gwneud etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cadan ap Tomos, ar ôl casglu cyfanswm o 93 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod etholiad nesaf y Senedd yn rhydd ac yn deg, drwy adael i ymgyrchwyr gwleidyddol ddanfon taflenni â llaw yn ddiogel dan gyfyngiadau symud.
Mae’n rhaid i bob pleidleisiwr gael cyfle teg i glywed gan ei ymgeiswyr a gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch sut i bleidleisio. Danfon taflenni yw'r ffordd fwyaf hygyrch i ymgeiswyr roi gwybod i bobl lle y maent yn sefyll. Byddai gwahardd danfon taflenni gwleidyddol yn rhoi mantais annheg i'r pleidiau mwyaf sydd â mwy o arian a dylanwad.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Chloe Smith, Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth y DU, wedi cyhoeddi na chaniateir danfon taflenni gwleidyddol gan wirfoddolwyr dan reolau cyfyngiadau symud Lloegr. A hynny er nad oes cyfyngiadau’n cael eu gosod ar y Post Brenhinol, cwmnïau danfon eraill, na danfon taflenni masnachol gan fusnesau.
Disgwylir i'r Cyfrifiad fynd rhagddo ym mis Mawrth, er bod hyn yn golygu bod angen i filoedd o weithwyr ddanfon taflenni a churo ar ddrysau ar draws y wlad, yn atgoffa pobl i lenwi a dychwelyd eu ffurflen Cyfrifiad.
Mae gwariant plaid wleidyddol eisoes yn cael ei reoleiddio gan y gyfraith cyn etholiadau’r Senedd. Mae'r rheoliad hwn ar waith gan ddisgwyl y byddai'r pleidiau bellach yn ymgyrchu.
Yn ystod pandemig, diogelwch sydd o'r pwys mwyaf. Ond os bydd yr etholiad yn mynd rhagddo ym mis Mai, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganiatáu i actifyddion gwleidyddol ymgyrchu, ar yr amod eu bod yn cymryd rhagofalon diogelwch wrth wneud hynny. Byddai gwahardd danfon taflenni gwleidyddol yn taflu amheuaeth ar degwch unrhyw etholiad.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ceredigion
· Canolbarth a Gorllewin Cymru